Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Gorffennaf 2019
Amser:
10.00 -
14.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5539
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Darren Millar AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Ann Lloyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Judith Paget, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan Martine Price, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Glyn Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Janet Davies, Llywodraeth Cymru Sioned Rees, Llywodraeth Cymru Sapna Lewis, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd ar fân newidiadau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC ar gyfer sesiwn y bore. Roedd Darren Millar AC yn bresennol fel dirprwy.
2.3 Dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Jayne Bryant AC fod ei mam yn aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
3.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i roi’r manylion am ganran y premiwm ariannol ar gyfer rhedeg practisau a reolir os caiff costau locwm eu heithrio (h.y. pe bai meddygon yn cael eu cyflogi mewn swyddi parhaol).
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu gyda'r cwestiynau nas cyrhaeddwyd.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
4.2 Cytunodd y Gweinidog i roi manylion i'r Pwyllgor am ddatblygiadau polisi pellach mewn meysydd yn y Papur Gwyn na chafodd eu cynnwys yn y Bil.
4.3 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi'r meysydd yn y Bil lle mae'n disgwyl darparu canllawiau, a disgrifiad o'r hyn y mae'n disgwyl i'r canllawiau hynny ei gwmpasu.
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.